Mae Tyn yr Helyg yn fferm fach organig ardystiedig Cymdeithas y Pridd yng Ngorllewin Cymru.
Mae Tyn yr Helyg yn tyfu bwydydd tymhorol, yn enwedig saladau a llysiau deiliog, ffrwythau meddal a pherlysiau. Maent yn tyfu bron popeth yn yr awyr agored, felly mae argaeledd yn bendant yn dymhorol.
Mae'r fferm hefyd yn cael ei rheoli ar gyfer bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, yn 2017 gyda chefnogaeth Cynllun Creu Coetir Fferm Glastir fe wnaethant blannu tri hectar o goetir ifanc.
Wedi’u lleoli yn fferm Blaencamel yng Nghilcennin mae Peter, Anne a’r teulu wedi bod yn tyfu ffrwythau a llysiau organig yng Nghwm hyfryd Aeron am dros 45 o flynyddoedd.
Ar ôl sefydlu ym 1982 Caws Teifi Cheese bellach yw’r gwneuthurwr caws artisan sydd wedi’i sefydlu hiraf yng Nghymru. Heddiw mae busnesau’r fferm a’r teulu yn cael eu rhedeg gan ddau fab John a Patrice; John-James a Robert, sy’n parhau â gweledigaeth eu rhieni ar gyfer y fferm a Chaws Teifi Cheese.
(Bridwyr Afal Cwm Ystwyth) - Mae James, bridiwr afalau wedi bod yn cynnig ystod o afalau blasus ac amrywiaethau ag enwau diddorol i ni eu prynu, yn ffres o’r berllan. Fel bridiwr afalau, mae James yn mwynhau cyfuno nodweddion dymunol o’r amrywiaethau masnachol, treftadaeth a lleol.
Mae madarch egsotig gan gynnwys Lion’s Mane a Wood Oyster yn tyfu mewn uned yng nghanol Penparcau. Nod Madarch Tŷ Cynan Myshrooms yw cefnogi’r sector bwyd a diod yng Nghymru a hefyd rhoi cyfle i gymunedau elwa o’n prosiect, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
Rheola Sophia a Scott laethdy bach yng Nghymru gyda thosturi a pharch wrth galon ei arfer, gan gadw mamau ifanc, ffermio’n atgynhyrchiol a chynhyrchu bwyd dwys o ran maeth. Maen nhw’n cynnig llaeth blasus, halloumi, cyffug ac iogwrt bob wythnos yn yr hwb.
Gardd farchnad newydd wedi’i leoli yn Nhal-y-bont. Cadwch olwg am eu gwrdiau a garlleg amrywiol a blasus.
Mêl Calon Aur
Mae gan Mêl Calon Aur nifer o wenynfeydd yn ardal Aberystwyth. Mae eu gwenyn yn cynhyrchu mêl yn bennaf o'r coed afal a gellyg ym Mherllan Treftadaeth Gogerddan yn ystod y gwanwyn ac o'r blodau gwyllt yn Nhynygraig a'r cyffiniau yn ystod misoedd yr haf. Maent yn wenynwyr heb driniaeth.
Gwertha Emma a Dave ystod o ffrwythau, llysiau, planhigion, cyffeithiau, suddion, cordialau a blodau o’r fferm 5 erw ger Llanidloes. Mae Emma hefyd yn Diwtor / hyfforddwr ar brosiect Llwybrau at Ffermio / Pathways to Farming.
Mae gan Paul, Suzanne, Billy a’u tîm enghraifft wych o ardd farchnad wedi’i chreu o’r newydd. Maen nhw’n gweithio’n galed i gyflenwi llawer o lysiau o ansawdd uchel.
Wedi’u lleoli yn Sir Gâr, mae Tetrim Teas yn crefftio â llaw cymysgeddau moesegol gan ddefnyddio cynhwysion naturiol, lleol. Gweithiant gyda thyfwyr lleol i gyrchu cynhwysion tymhorol, ac mae eu strwythur nid-er-elw yn golygu eu bod yn mwynhau rhoi yn ôl i’r gymuned ac i’w tyfwyr
Mae cig eidion Pori Bach yn gynnyrch arbennig iawn. Mae’r holl wartheg yn bwydo ar borfa ac yn rhywogaeth allweddol wrth iddynt bori er cadwraeth gwarchodfeydd natur – gan gynnwys RSPB Ynyshir. Mae anifeiliaid sy’n pori 100% ar borfa yn golygu effeithiau cadarnhaol ar fioamrywiaeth a charbon, iechyd dynol a llesiant, ac iechyd a llesiant anifeiliaid.
Ffefrynnau Cwsmeriaid
Y bocsys na all ein cwsmeriaid gael digon ohonynt—ffres, tymhorol, ac organig bob amser.